lunes, 4 de junio de 2012

Penwythnos Pen Blwydd Patagonaidd

Y 25ain o Fai yw un o'r dyddiadau pwysicaf yn hanes yr Ariannin gan ei fod yn nodi dechrau'r rhyfel am annibyniaeth yn 1810 - ysgrifennais hanes hyn yn y blog y llynedd, felly dwi ddim am ymhelaethu. Y 27ain o Fai yw un o'r dyddiadau pwysicaf yn fy hanes i, gan mai ar y diwrnod hwnnw y ces i fy ngeni. Felly gan fod dydd Gwener y 25ain yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol es i, Elliw a Sara ar ein gwyliau i'r Andes ar y bws! Prin mod i wedi eistedd cyn i'r dyn yn y sedd drws nesaf i fi ddweud (yn Sbaeneg), 'Gad i fi ddyfalu... Almaenes?' Dwi wedi cael sawl sgwrs debyg yn y gorffennol, a doedd arna i ddim awydd un ar ddechrau'r gwyliau. Rhestrodd wahanol wledydd Sgandinafaidd cyn ildio a gofyn o le dwi'n dod, a phan esboniais wrtho ein bod ni'n Gymry disgleiriodd ei wyneb cyn iddo ddatgan, 'Dwi'n Roberts!' Ar ôl sgwrsio am ychydig, gofynnodd a oeddwn i wedi ymweld â bedd y Malacara ar fy ymweliadau blaenorol â'r Andes. 'Do,' atebais. 'Wel,' dywedodd yntau, 'y Malacara oedd ceffyl fy hen hen daid i.' 'Felly dy hen hen daid di oedd John Daniel Evans?' 'Ie'. Roedd John Daniel Evans yn flaenllaw yn hanes y Wladfa, yn enwedig hanes cymunedau Cymreig yr Andes. Hwyliodd i'r Ariannin ar fwrdd y Mimosa pan oedd yn dair oed ac yn 1885 roedd yn un o'r 'rifleros', sef y dynion farchogodd ar draws y paith er mwyn dod o hyd i fwy o dir ffrwythlon i'w wladychu - a sefydlu Cwm Hyfryd lle mae Esquel a Threvelin heddiw. Ei gartref ef oedd tŷ cyntaf Trevelin, ac mae croeso i ymweld â 'Cartref Taid' lle mae bedd y Malacara. Yn ôl yr hanes, aeth John Daniel Evans a thri Chymro arall i chwilio am aur pan ymosodwyd arnynt gan Indiaid. Dihangodd John Daniel Evans wrth i'w geffyl, Malacara ('wyneb hyll') neidio yn wyrthiol dros ddibyn serth, ond lladdwyd y tri arall a'u claddu mewn man a elwir 'Dyffryn y Merthyron'. Teimlwn yn eithaf 'star struck' yn siarad gydag ef, a dweud y gwir! Ond dyw gor gor ŵyr John Daniel Evans ddim yn siarad Cymraeg - heblaw 'bara menyn' - a meddyliais ei fod yn drueni nad yw disgynydd gŵr oedd mor flaengar yn hanes y Cymry ym Mhatagonia yn gallu'r Gymraeg. Cafodd ef ei synnu'n fawr a'i siomi pan esboniais wrtho mai ychydig iawn o boblogaeth Cymru sy'n gallu'r Gymraeg, a rhoddodd hynny bersbectif gwahanol ar bethau.

Gyrhaeddon ni pen ein taith am 8 o'r gloch fore Gwener ac ar ôl rhyw awr o gwsg a gwledd o frecwast yn y cabaña yng nghwmni'r mynyddoedd, casglodd Victor a Clare ni er mwyn mynd am dro i'r parc cenedlaethol. Mae Los Alerces yn ymestyn dros 2,630km sgwâr ar hyn y ffin a Chile, ac yn ogystal â choed yr alerce mae yn y parc nifer fawr o atyniadau byd natur a dim ond cornel o'r parc lwyddon ni i'w weld mewn bore. Fues i yn y parc gydag Ysgol Camwy y llynedd, ond roedd y golygfeydd yr un mor drawiadol - y rhaeadrau'n rhuthro, y llyn llonydd, y coed tal cadarn, y mynyddoedd eang a'u copaon gwynion. Mae rhyw ddistawrwydd hudol yn perthyn i'r lle, ac ar ôl i niwl y bore godi cawson ni bicnic ar lan y traeth cyn mynd am dro drwy'r coed. Yn dilyn noson o deithio a bore o awyr iach, cysgon ni siesta bach haeddiannol cyn mynd i Ysgol Gymraeg Trevelin gydag Iwan a pharatoi gwledd ar gyfer Noson i'r Ifanc. Bwrgeri oedd ar y fwydlen ac ro'n nhw'n hynod o flasus!
Gysgon ni'n weddol hwyr y bore canlynol, cyn i Clare a Victor ein casglu drachefn. Aethon ni i'w cartref y tro hwn lle mae ganddyn nhw ddau geffyl(yn ogystal â chi a dwy gath) sef Harri ar gyfrif patshyn gwyn ar ei dalcen a Moreira sy'n enw ar gaucho enwog yn yr Ariannin. Ges i wisgo 'chaps' i farchogaeth, a diolch byth achos byddai'n legins i wedi bod yn dwll oni bai amdanyn nhw! Cawson ni ein tair dro yn marchogaeth Harri drwy'r ardd, ac at fan sy'n edrych dros yr afon a rhan o Drevelin. Braf. Wedi cwpl o oriau o farchogaeth roedden ni i gyd yn barod am ein cinio, a neb yn ei haeddu yn fwy na'r ceffylau - llowcion nhw'r moron a'r afalau, a bron iawn i ni golli ein bysedd ar gyfrif eu chwant bwyd! A beth oedd ein cinio ni? Bwrgeri! Be well ar ôl prynhawn arall o awyr iach a llond ein bol o fwyd ond cysgu siesta i gyfeiliant y glaw'r tu allan?!


Roedd Iwan wedi estyn gwahoddiad i ni gael swper yn ei fflat yng Nghanolfan Gymraeg Esquel y noson honno, ond roedd e'n gwrthod yn lân â datgelu'r fwydlen i ni. Felly roedd hyn yn amlwg yn peri pryder! Wrth gamu dros drothwy'r ganolfan croesawyd ein clustiau gan sain cerddoriaeth Nadolig a'n ffroenau gan arogl coginio cartrefol cyfarwydd, a chawson ni ein croesawu gan Iwan - 'Nadolig Llawen!' Yn dilyn sylw ysgrifennais i
ar y we'r wythnos flaenorol yn dweud fod 'na naws Nadoligaidd i Batagonia ar gyfrif yr oerfel, cafodd Iwan syniad cyfrinachol i baratoi cinio Nadolig ar ein cyfer ni! A dyna lle'r oedd y cyw iâr yn dynwared twrci yn y ffwrn, wedi'i lenwi a stwffin a'i amgylchynnu gan datws rhost. Roedd tatws melys, brocoli a moron yn berwi'n braf, ffriwyd cennin mewn cryn dipyn o tsili, a pharatowyd saws bara a saws afalau - a phwdin Nadolig - ymlaen llaw. Am syniad penigamp! Roedd y cyfan yn flasus dros ben, ond fel sy'n digwydd bob Nadolig, fe fwytaodd bawb ormod - a difaru dim. Gyda'n boliau'n llawn aethon ni i Hotel Argentino a chwarae ambell gem o pŵl. A dwi'n falch iawn o gyhoeddi fod Tîm y Dyffryn wedi curo Tîm yr Andes! Ond collodd y Tîm dros 26 yn erbyn y Tîm dan 26; doedd hynny ddim yn ddechrau delfrydol i'r pen blwydd...


Ro'n i wedi pacio bagiau te Glengettie at y daith er mwyn cael paned o de Cymreig ar fy mhen blwydd. A dyna beth oedd dathliad mewn cwpan! Llwyddais i wasgu pob diferyn o'r bag a mwynhau tri phaned. Ar ôl siarad dros Skype gyda'r teulu oedd yn dathlu fy mhen blwydd dan heulwen Ystrad Meurig, ymddangosodd Sara ac Elliw gyda theisen gynta'r dydd ac ynddi gannwyll dan ganu 'Pen Blwydd Hapus'!
Am ryw hanner dydd gyrhaeddon ni i gartref Clare a Victor ar droed lle'r oedd amrywiaeth o gig yn prysur goginio ar y parilla - salchicha, morsilla, bola de lomo a chorizo. Bu'n bwrw glaw yn sobr iawn felly ni ellid cael asado awyr agored, a llanwyd y ty ag arogl sawrus dros ben. Ymhen hir a hwyr daeth yn amser i ni eistedd wrth y bwrdd bwyd a llenwi ein platiau gyda'r gwahanol saladau a'r cig a weiniwyd gan Victor. Wawi sôn am flasus! Wna i fyth flino ar asado, ac oni bai mod i'n gwybod fod teisen ar y ffordd buaswn i wedi plannu nannedd mewn sawl darn arall o'r cig gyda saws chimichuri wedi'i daenu drosto. Ond stopio fu raid ac ar ôl seibiant tra bod Clare yn trio cuddio'r ffaith ei bod hi'n addurno cacen, ymddangosodd ail gacen y dydd - un siocled gyda llenwad hufen ac eirin gwlanog, a chant a mil drosti! Diolch byth roedd y glaw wedi peidio erbyn ganol prynhawn, felly gerddon ni i Gapel Bethel Trevelin a chyrraedd i weld enfys yn ymestyn drosto. Roeddwn i wedi trefnu gydag Isaias y bydden ni'n cynnal oedfa ddwyieithog yn y capel, a daeth rhyw ugain o bobl i'r gwasanaeth a gwahanol rai yn cymryd rhan wrth ddarllen a gweddïo. Bendith fawr oedd cael rhannu'r efengyl gyda nhw. Darllenodd Isaías gyfieithiad Sbaeneg o'r neges, ac ar ôl traddodi'r fendith ganodd bawb 'Pen Blwydd Llawen' cyn mynd i'r ysgol am de parti - a dyna lle'r oedd cacennau rhif tri a phedwar! Roedd hwn yn ddiwedd braf dros ben i benwythnos bythgofiadwy, ac wedi lleddfu rhywfaint ar y broses o heneiddio...


Diolch yn fawr i bawb am y cyfarchion, y cwmni a'r caredigrwydd! x





No hay comentarios:

Publicar un comentario